SL(5)395 - Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019

Cefndir a Diben

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf 2018) yn sefydlu'r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae Rhan 3 o Ddeddf 2018 yn parhau â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac yn ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru. 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i adran 91 o Ddeddf 2018 sy'n darparu ar gyfer cyfansoddiad y Tribiwnlys Addysg, gan gynnwys penodi Llywydd y Tribiwnlys ac aelodau eraill y Tribiwnlys Addysg.

Mae rheoliad 2(2) yn dileu o adran 91(3) o Ddeddf 2018 y gofyniad i gael cytundeb yr Arglwydd Brif Ustus i’r Arglwydd Ganghellor benodi Llywydd y Tribiwnlys Addysg.

Mae rheoliad 2(3) yn dileu o adran 91(4) o Ddeddf 2018 y gofyniad i gael cytundeb Llywydd y Tribiwnlys i’r Arglwydd Ganghellor benodi’r panel cadeirydd cyfreithiol.

Mae rheoliad 3 yn rhoi yn lle’r cofnod yn Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 sy’n ymwneud â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru gofnod sy’n ymwneud â’r Tribiwnlys Addysg.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offerynhwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

1.1 Proses y Pwyllgor Penodiadau Barnwrol ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

Mae proses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae proses y Comisiwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Arglwydd Ganghellor ddilyn proses tri cham cyn penodi’r Llywydd.

 

 

1.2 Proses Deddf 2018 ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru

Nid yw proses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru. Mae proses benodi wahanol yn gymwys o dan Ddeddf 2018 ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru. O dan Ddeddf 2018, mae Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus.

1.3 Y Rheoliadau

Mae'r Rheoliadau hyn yn ceisio diwygio deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol fel bod proses y Comisiwn yn cael ei chymhwyso ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru. O dan broses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, yr Arglwydd Ganghellor fyddai'n gyfrifol am benodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru.

Mae hyn felly'n creu gwrthdaro o ran penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru: byddai proses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn cynnwys yr Arglwydd Ganghellor yn unig, tra byddai proses Deddf 2018 yn cynnwys yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus.

Mae'r Rheoliadau yn ceisio mynd i'r afael â'r gwrthdaro hwn trwy ddileu'r cyfeiriad at yr Arglwydd Brif Ustus yn adrannau perthnasol Deddf 2018, fel mai dim ond yr Arglwydd Ganghellor sy'n ymwneud â phroses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a phroses Deddf 2018.

1.4 Defnyddio pwerau atodol

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y pwerau galluogi yn adran 97(1) a (2) o Ddeddf 2018 yn gwneud fel a ganlyn (pwyslais wedi’i ychwanegu):

“provides the Welsh Ministers with power to make regulations to make supplementary, incidental, consequential, transitory, transitional or saving provisions if they consider it necessary or expedient to give full effect to provisions in the Act or in consequence of any provisions in the Act or for the purposes of any provisions of the Act.”

O ystyried bod y broses benodi fel y'i nodir yn Neddf 2018 yn gweithio fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd (yn gyfreithiol nid oes nam yn y broses benodi a nodir yn Neddf 2018) rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro:

-      ei dealltwriaeth o'r gair “atodol” yn adran 97(1) o Ddeddf 2018, a pham mae’r pŵer “atodol” yn cael ei ddefnyddio i gymhwyso proses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru (a thrwy hynny newid y gyfraith fel y’i trafodwyd a'i pasiwyd gan y Cynulliad);

-      pa elfen o “giving full effect to provisions in the Act or in consequence of any provisions in the Act or for the purpose of any provisions of the Act” yn adran 97(1) o Ddeddf 2018 y dibynnir arni yn y Rheoliadau hyn (o gofio nad yw'r broses benodi yn Neddf 2018 yn ddiffygiol).

Ni ddylai fod yn syndod bod y Pwyllgor hwn yn pryderu bod pwerau atodol yn cael eu defnyddio i wrthdroi adrannau pwysig o Ddeddf Cynulliad.


 

 

1.5 Trafodion Cyfnod 4 Deddf 2018

Nodwn, yn ystod trafodion Cyfnod 4 Deddf 2018, fod y Gweinidog Addysg wedi dweud:

Hoffwn i sôn yn gyflym am ddatblygiad diweddar iawn a fydd yn mynnu mân ddiwygiad i'r Bil pan ddaw'n Ddeddf.  Nid oedd penodiadau i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn rhan o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn flaenorol, a oedd yn rhyfedd. Gwnaeth gorchymyn a wnaed gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr, datrys hynny am y tro cyntaf ac mae hynny i'w groesawu. O ganlyniad, rydym yn cynnig diwygio adran 91 o'r Bil drwy orchymyn.  Bydd hyn yn dileu swyddogaeth gytuno yr Arglwydd Brif Ustus a'r llywydd.  Bydd yn cysoni penodiadau i'r tribiwnlys addysg yn y dyfodol ac yn normaleiddio sefyllfa, fel sydd wedi digwydd i TAAAC. Mae cytundeb â Llywodraeth y DU ar gyfer ymdrin â hyn, sydd mewn gwirionedd yn fater technegol, bach.

Rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi cael rhybudd o'r newid sy'n cael ei gynnig gan y Rheoliadau hyn, ac rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 4, a hynny o 50 pleidlais i 0.

Fodd bynnag, ni chredwn mai Cyfnod 4 yw'r ffordd briodol o gyhoeddi bwriadau i wneud newidiadau i rannau pwysig o Ddeddfau'r Cynulliad, yn enwedig newidiadau sy'n codi o ganlyniad i gytundeb munud olaf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam na ellid fod wedi trafod y newidiadau arfaethedig yn briodol yn ystod Cyfnod Adrodd ychwanegol.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau rhinweddau uchod.